Arglwydd, arwain trwy’r anialwch,
Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan.

Colofn dân rho’r nos i’m harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
Dal fi pan bwy’n teithio’r mannau
Geirwon yn fy ffordd y sydd:
Rho imi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.

Agor y ffynhonnau melys
Sydd yn tarddu o’r graig y maes,
’R hyd yr anial mawr canlyned
Afon iechydwriaeth gras,
Rho imi hynny,
Dim imi ond dy fwynhau.

Pan fwy’n myned trwy’r Iorddonen—
Angau creulon yn ei rym,
Ti est trwyddi gynt dy Hunan,
P’am yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth,
Gwna imi weiddi yn y llif!

Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed:
Ti gest angau, ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed:
Pen Calfaria,
Nac aed hwnnw byth o’m cof.