Words: (1860-1953).

Music: Leonora, , cir­ca 1920 .


Da yw bod wrth draed yr Iesu,
Ym more oes;
Ni chawn neb fel Ef i’n dysgu,
Hyd ddiwedd oes:
Dan Ei groes mae ennill brwydrau,
A gorchfygu temtasiynau—
Achos Crist yw’r achos gorau,
Ar hyd ein hoes.

Cawn Ei air i buro’r galon,
Ym more oes;
A chysegru pob gobeithion,
Ym more oes;
Wedi dod ym mlodau’n dyddiau,
Ni bydd eisiau gado’i lwybrau—
Cawn fynediad i’w drigfannau,
Ar ddiwedd oes.