Words: (1802-1883).

Music: Eb­e­ne­zer, , 1890.


Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
Twysog Bywyd pur yn marw—
Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu’I glod?
Dyma gariad nad â’n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd
Oedd yn gyfain hyd yn awr:
Gras â chariad megis dilyw
Yn ymdywallt ymâ ’nghyd,
A chyfiawnder pur â heddwch
Yn cusanu euog fyd.