Words: , Ol­ney Hymns (Lon­don: W. Ol­i­ver, 1779) (Amaz­ing Grace); .

Music: New Bri­tain, Vir­gin­ia Har­mo­ny, 1831.


Pererin wyf mewn anial dir,
Yn crwydro yma a thraw;
Ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
Fod ty fy Nhad gerllaw.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd,
Bydd imi’n niwl a thân;
Ni cherdda’ i’n gywir hanner cam
Ond byddi di o’m blaen.

Mae hiraeth arnaf am y wlad
Lle mae torfeydd di-ri’
Yn canu’r anthem ddyddiau’u hoes
Am angau Calfari.