Words: (1880-?).
Music: In Memoriam (Roberts), (1878-1935) .
Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
At y Graig sydd uwch na mi,
Craig safadwy mewn tymhestloedd,
Craig a ddeil yng ngrym y Ili;
Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,
Deued dilyw, deued tân,
A phan chwalo’r greadigaeth,
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.
Pan fo creigiau’r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy’r farn a ddaw,
Stormydd creulon arna’ i’n curo,
Cedyrn fyrdd o’m cylch mewn braw;
Craig yr Oesoedd ddeil pryd hynny,
Yn y dyfroedd, yn y tân:
Draw ar gefnfor tragwyddoldeb
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.